Efallai y bydd eich asiant gosod tai neu’ch landlord yn gofyn i chi lofnodi cytundeb tenantiaeth (contract). Mae hyn yn gyfreithiol rwymol. Ar ôl i chi ei lofnodi mae bron yn amhosib ei wrthdroi, ac os yw’n bosib – codir tâl arnoch i wneud hynny!
Dylai’ch landlord roi 24 awr i chi fynd â’r contract gyda chi er mwyn i arbenigwr wirio am delerau annheg. Yn ystod y cyfnod hwn, dylid cadw’r tŷ ar eich cyfer yn rhad ac am ddim. Gofynnwch i rywun edrych dros y contract i chi, eich rhieni, yr Undeb Myfyrwyr neu’r Brifysgol efallai.
Cofiwch – does dim rhaid i chi lofnodi ar y diwrnod rydych yn penderfynu eich bod am rentu’r tŷ.
Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
I gael adolygu eich contract, e-bostiwch gopi o’ch contract i advice@cardiff.ac.uk neu cysylltwch â’r Tîm Cyngor dros y ffôn ar 02920 781 410.
Gallwch ddysgu rhagor am Dîm Cyngor Myfyrwyr UMPC yn https://www.cardiffstudents.com/advice/talktous/
Myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Cysylltwch â’ch Swyddog Llety:
029 2041 6188/accomm@cardiffmet.ac.uk
Myfyrwyr Prifysgol De Cymru
Cysylltwch â’ch Swyddog Llety:
01443 482044/ accom@southwales.ac.uk
◾Bod unrhyw addewidion geiriol wedi’u cynnwys yn y cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig. Dylid eu llofnodi a’u dyddio;
◾Bod enw pob tenant ar y cytundeb;
◾Bod gennych gopi o’r contract ac rydych yn ei gadw mewn man diogel fel y gallwch gyfeirio’n ôl ato os bydd unrhyw broblemau’n codi;
◾Os ydych ar gontract ar y cyd, eich bod yn deall eich bod yn atebol ar y cyd am unrhyw ddifrod a achosir i rannau cymunedol o’r eiddo e.e. y gegin a’r ystafell fyw. Dylech rentu gyda phobl rydych yn ymddiried ynddynt yn unig;
◾Os ydych chi neu denant arall am adael y denantiaeth cyn diwedd y contract, eich bod yn deall mai eich cyfrifoldeb chi yw dod o hyd i denant arall. Mae’n bosibl hefyd y codir tâl am adael y contract yn gynnar. Chi sy’n gyfrifol am rent tan ddiwedd y denantiaeth;
◾Nad ydych yn gwneud unrhyw daliadau (gan gynnwys y blaendal neu ffioedd asiantaeth) cyn llofnodi’r contract.
Lawrlwythwch y daflen deall eich contract tenantiaeth am fwy o wybodaeth.
Os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth yn y contract, ffoniwch:
Canolfan Dewisiadau Tai ar 029 20 570750
Gellir hefyd gyfeirio at y rhain fel bondiau. Dyma swm o arian y mae ei angen ar y landlord neu’r asiantaeth gosod tai fel ernes rhag ofn y byddwch yn difrodi’r eiddo.
Gellir hefyd ei ddefnyddio i dalu am filiau neu rent dyledus neu ddodrefn sydd ar goll. Bydd y rhan fwyaf o landlordiaid ac asiantau yn gofyn am swm sy’n gyfwerth â chost rhent am fis ond yr uchafswm y gall landlord ei godi yw chweched o’r rhent blynyddol sy’n daladwy.
Rhaid i’ch blaendal gael ei ddiogelu dan Gynllun Diogelu Blaendaliadau Tenantiaeth. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol. Rhaid i’ch landlord neu’ch asiantaeth gosod tai roi i chi fanylion am le y diogelir eich blaendal ymhen 30 diwrnod o dalu’r arian iddynt. Os nad ydych yn siŵr a yw eich blaendal wedi’i ddiogelu, gofynnwch i’ch landlord neu cysylltwch â’r cynlluniau cymeradwy:
Gwasanaeth Diogelu Blaendaliadau
0330 303 0030
FyMlaendaliadau
0844 980 0290
Y Cynllun Blaendaliadau Tenantiaeth
0845 226 7837
Pan symudwch allan, os byddwch chi a’ch landlord yn cytuno ar faint o’r blaendal y byddwch yn ei gael yn ôl, rhaid iddo gael ei ddychwelyd o fewn 10 diwrnod o ddyddiad gorffen y denantiaeth. Os ydych chi a’ch landlord yn dadlau, yna diogelir eich blaendal yn y cynllun blaendaliadau nes y caiff y mater ei ddatrys.
I sicrhau eich bod yn cael eich blaendal llawn yn ôl llenwch y rhestr eiddo llawn wrth i chi gyrraedd. Dylai eich landlord neu’ch asiantaeth gosod tai fynd trwy hyn gyda chi, ond gallwch greu eich rhestr eiddo eich hunain os oes angen. Nodwch unrhyw farciau ar ddodrefn neu broblemau yn yr eiddo. Efallai y byddwch am gymryd lluniau. Os oes problemau yn y tŷ wrth i chi gyrraedd, dywedwch wrth eich landlord neu’ch asiantaeth gosod tai cyn gynted â phosibl. Cytunwch ar y rhestr eiddo gyda’ch landlord a chadwch gopi ar gyfer eich cofnodion.
Mae’n bwysig gwybod beth yw eich hawliau a’ch cyfrifoldebau fel tenant. Mae hyn yn eich helpu i gynnal perthynas dda gyda’ch landlord, eich cymdogion a’ch cydletywyr.
Mae gan bob tenant yr hawl i:
• wybod telerau’r denantiaeth
• allu cysylltu â’r landlord naill ai’n uniongyrchol neu drwy asiantaeth gosod tai.
• eiddo o gyflwr safonol a llety diogel
• mwynhad didramgwydd wrth fyw yn yr eiddo
• rhybudd priodol (24 awr o rybudd) os yw’r landlord am archwilio neu ymweld â’r eiddo
• rhybudd priodol os yw’r landlord am i’r tenant adael
Mae pob tenant yn gyfrifol am:
• gyflwyno sbwriel yn gywir (gan gynnwys defnyddio cadiau gwastraff bwyd, biniau/bagiau du a bagiau ailgylchu yn gywir);
• peidio â bod yn swnllyd, efallai y byddwch yn rhannu wal gyda chymdogion hyn neu rai sydd â phlant ifanc;
• sicrhau bod yr eiddo’n ddiogel drwy ddefnyddio cloeon ar y ffenestri a’r drysau a ddarperir gan y landlord;
• gwybod pwy yw eich cyflenwyr dŵr, nwy a thrydan a thalu biliau ar amser;
• gwneud mân atgyweiriadau, fel adnewyddu bylbiau golau, gosod batris newydd mewn larymau tân, clirio toiledau sydd wedi’u blocio;
• talu rhent ar amser;
• sicrhau bod yr eiddo wedi’i wresogi’n ddigonol i atal lleithder a llwydni rhag tyfu. Gall cost y difrod a achosir i’r eiddo o ganlyniad i hyn gael ei dynnu o’ch blaendal.
Mae gan bob landlord yr hawl i:
• bennu telerau’r cytundeb cyn i’r denantiaeth ddechrau;
• cael rhent ar y dyddiad y cytunwyd arno yn y contract;
• cael gwybod am unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol;
• cael rhybudd priodol gan denant os yw’n dymuno gadael;
• mynediad rhesymol i’r eiddo (drwy roi 24 awr o rybudd i denantiaid);
• gofyn am flaendal y gellir ei ddefnyddio i dalu am unrhyw ddifrod i’r eiddo gan y tenant;
• gofyn am rent ymlaen llaw;
• dewis pwy fydd yn cael gosod yr eiddo cyn belled â bod y dewis yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth sy’n gwahardd gwahaniaethu ar sail hil, rhyw neu grefydd.
Mae pob landlord yn gyfrifol am:
• diogelu eich bond/blaendal mewn cynllun Blaendal Tenantiaeth;
• rhoi tystysgrif diogelwch nwy gyfredol i chi;
• bodloni’r telerau yn y cytundeb tenantiaeth;
• gwneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw’r eiddo fel y cytunwyd yn y cytundeb tenantiaeth;
• os yw’n berthnasol, trwyddedu’r eiddo o dan gynlluniau Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth.
• Cael trwydded drwy Rhentu Doeth Cymru