Mae tai i fyfyrwyr ar gael drwy’r flwyddyn – felly peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi ruthro. Mae digon o ddewis ar gael. Nid yw rhai asiantaethau’n rhyddhau eu rhestri tai tan yn llawer hwyrach yn y flwyddyn academaidd.
Rydym yn argymell eich bod yn gweld amrywiaeth o eiddo cyn llofnodi contract. Rhaid i chi wneud yn siŵr ei fod yn iawn i chi, eich bod yn hapus gyda phwy rydych yn byw ac y gallwch ei fforddio.
Cofiwch fod contractau’n gyfreithiol rwymol felly peidiwch â theimlo dan bwysau i lofnodi. Gofynnwch am gyngor cyn dechrau chwilio am dŷ.
Mae llawer o leoedd i chwilio am dai yn y sector rhent preifat. Rydym yn argymell eich bod yn edrych ar restr dai sector preifat eich prifysgol yn gyntaf. Ond pryd bynnag y byddwch yn chwilio am gartref – sicrhewch fod y landlord wedi’i drwyddedu drwy Rhentu Doeth Cymru a bod y tŷ wedi’i drwyddedu gan Gyngor Caerdydd os oes angen.
Bydd eiddo a restrir gan eich prifysgol yn cydymffurfio â gofynion Rhentu Doeth Cymru a chynllun trwyddedu Cyngor Caerdydd.
Rhentu Doeth Cymru:
Mae’r gyfraith yng Nghymru nawr yn gofyn i bob landlord gofrestru ac i bob asiant a landlord sy’n hunan reoli gael trwydded. Sicrhewch yn gyntaf bob tro fod eich landlord wedi’i gofrestru a bod yr asiant rheoli/landlord wedi’i drwyddedu.
Trwyddedau’r Cyngor ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth:
Mae angen trwydded gan y Cyngor ar bob tŷ yng Nghaerdydd â thri llawr a 5 neu fwy o denantiaid. Dim ond os yw’r eiddo yn ateb meini prawf diogelwch a safonau byw y caiff drwydded o’r fath.
Os yw’r tŷ yn Cathays neu ym Mhlasnewydd (y Rhath), bydd angen y drwydded os oes 3 neu fwy o denantiaid, waeth pa faint yw’r eiddo. Gofynnwch i’r landlord neu’r asiant gosod a yw’r eiddo wedi’i drwyddedu fel sy’n ofynnol. Os oes gennych unrhyw bryderon, e-bostiwch
Housingenforcement-cardiff-srswales@valeofglamorgan.gov.uk
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Bydd MET Caerdydd yn rhyhddau ei restr tai a argymhellir yn Ionawr ar “MET Canolog”
I gael rhagor o wybodaeth am ryddhau’r restr tai, edrychwch ar boster eleni
Prifysgol De Cymru
Chwiliwch am lety ar Studentpad, sef chwilotwr llety am ddim i fyfyrwyr Prifysgol De Cymru.
Prifysgol Caerdydd
Nid yw Prifysgol Caerdydd yn darparu rhestr mwyach. Yn hytrach, caiff myfyrwyr eu cyfeirio at wasanaeth Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd, sydd â swyddfa yn Undeb y Myfyrwyr ac sy’n cael ei redeg gan yr Undeb.
Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn rhoi cyngor ar fyw yn y sector rhent preifat.
Meddyliwch am yr ardal rydych am fyw ynddi.
◾A yw’r tŷ yn agos at ganol y dref, adeiladau’r brifysgol ac undebau myfyrwyr?
◾A oes meddygfa, archfarchnad a fferyllfa o fewn pellter cerdded?
Mae’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd ac Atriwm Prifysgol De Cymru yn byw yn Cathays neu’r Rhath, mae myfyrwyr campws y Mynydd Bychan yn byw yn ardal y Mynydd Bychan ac mae myfyrwyr Metropolitan Caerdydd yn tueddu i fyw yn ardal y Rhath. Mae’r ardaloedd hyn yn agos at amwynderau lleol, ond nid yw hynny’n golygu na allwch fyw yn rhywle arall! Mae’n hawdd cyrraedd Caerdydd ar droed, ar fws neu ar drên.
Gall eich Prifysgol a’ch Undeb Myfyrwyr roi cyngor proffesiynol am ddim i chi ar bopeth sy’n ymwneud â llety. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i chi isod.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
◾Gall y Llinell Gyngor ar Lety, sy’n cael ei chynnal gan Wasanaeth Llety Prifysgolion roi cyngor pwrpasol i fyfyrwyr ar eich hawliau cyfreithiol fel tenantiaid. Gall hefyd edrych dros gontractau tenantiaeth am delerau annheg.
◾Gall Cynghorydd Undeb y Myfyrwyr roi cyngor proffesiynol, diduedd am ddim i fyfyrwyr ar yr holl faterion sy’n ymwneud â thai a lles.
Prifysgol De Cymru
◾Mae Gwasanaeth Llety Prifysgolion yn rhoi arweiniad a chymorth i fyfyrwyr ynghylch materion sy’n ymwneud â thai. Gwyliwch y fideos defnyddiol ar eu gwefan
Prifysgol Caerdydd
◾Mae gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu gyda’ch anghenion tai.
◾Gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr yn rhoi arweiniad ynglŷn â phopeth sy’n ymwneud â thai, gan gynnwys rhoi cyngor pwrpasol ar eich hawliau cyfreithiol fel tenantiaid. Gall hefyd edrych dros gontractau tenantiaeth am delerau annheg.
Gall Shelter Cymru roi cyngor ar dai i bob tenant yng Nghymru. Mae ganddynt adnoddau am ddim a chynghorwyr lleol a all eich cynghori ar bob agwedd ar dai, gan gynnwys materion cyfreithiol megis blaendaliadau a chontractau.