Dylai pawb deimlo’n ddiogel yn eu cartref eu hunain, felly edrychwch ar yr awgrymiadau isod i atal argyfyngau ac i wella diogelwch yn y cartref.
Os oes gennych bryderon am ddiogelwch eich cartref, ewch i’r dudalen Cysylltu i gael gwybod mwy am adrodd am bryderon.
Gall neb anwybyddu’r posibilrwydd y bydd tân yn digwydd lle maen nhw’n byw. Mae myfyrwyr yn aml yn byw mewn tai a rennir – gall amlfeddiannaeth gynyddu’r risg o dân. Dilynwch y cyngor hwn i leihau’r risg o dân yn digwydd yn eich cartref.
- Gwirio Gwener.Profwch eich larymau mwg a charbon monocsid bob wythnos – mae Gwirio Gwener yn ffordd dda o gofio profi bod eich larymau’n gweithio. Dylai fod synwyryddion o leiaf ar bob llawr yn eich cartref, yn ddelfrydol yn y cyntedd neu ar y landin. Gwnewch yn siŵr bod eich larymau’n gweithio – arhoswch am y bîp!
- Cynlluniwch ffordd o ddianc. Gofynnwch hyn i chi’ch hun, os oedd tân yn eich cartref, sut byddech chi’n dianc yn ddiogel? Mae’n bwysig gwybod yr ateb i hyn. Cofiwch gadw’r cynteddau, y grisiau a’r drysau’n glir – gallai hyn fod yn llwybr dianc mewn argyfwng.
- Byddwch yn ofalus yn y gegin. Peidiwch fyth â choginio pan o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, mae hyn yn amharu ar eich gallu. Mae’n well cael tecawê ar y ffordd adref yn hytrach na choginio a bod mewn perygl. Peidiwch fyth â rhoi dŵr ar fraster sy’n llosgi, peidiwch â symud padell sy’n llosgi a pheidiwch â gadael pethau’n coginio heb oruchwyliaeth – byddai gwneud yr holl bethau hyn yn eich rhoi mewn perygl o gael eich brifo.
- Cymerwch ofal gyda chanhwyllau. Peidiwch â gadael canhwyllau heb oruchwyliaeth a gwnewch yn siŵr nad ydyn nhw’n agos at unrhyw beth a allai fynd ar dân. Os ydych chi’n defnyddio goleuadau te, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n eu rhoi mewn daliwr cannwyll.
- Ydych chi’n ysmygu? Peidiwch ag ysmygu yn y gwely – mae’n rhy hawdd syrthio i gysgu a pheidio â sylwi bod sigarét yn dal i losgi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei roi allan, yn llwyr allan.
Os bydd tân yn digwydd, peidiwch fyth â’i ymladd eich hun. Ewch allan – arhoswch allan a ffoniwch 999!
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnal archwiliadau diogelwch tân am ddim yn y cartref. Gallant hefyd osod larymau mwg yn eich eiddo am ddim. I drefnu eich ymweliad, ffoniwch 0800 169 1234 neu gallech gael mwy o wybodaeth o’r wefan.
Y Gofrestr Nwy Ddiogel yw’r rhestr swyddogol o beirianwyr nwy sy’n gymwys i weithio’n ddiogel ac yn gyfreithlon ar offer nwy. Mae hyn wedi cymryd lle cofrestriad CORGI. Dim ond peiriannydd cofrestredig y Gofrestr Nwy Ddiogel ddylai ffitio, trwsio neu wasanaethu offer nwy.
Mae gan landlordiaid gyfrifoldebau am ddiogelwch nwy. Yn ôl y gyfraith, rhaid i’ch landlord gadw’r holl offer nwy a gyflenwir i chi i’w defnyddio mewn cyflwr da. Mae’n rhaid iddynt drefnu bod peirianydd cofrestredig cofrestredig y Gofrestr Nwy Ddiogel yn cynnal archwiliad diogelwch nwy bob 12 mis ac yn darparu copi o gofnod diogelwch nwy y landlord.
Pob Tro
- Gofynnwch am gopi o gofnod diogelwch nwy cyfredol y landlord cyn i chi symud i mewn.
- Cydweithredwch â’ch landlord a gadewch i’r peiriannydd cofrestredig weithio pan fydd yn rhaid cynnal archwiliad diogelwch nwy neu wasanaethu offer.
- Edrychwch ar Gerdyn Adnabod unrhyw beiriannydd nwy sy’n dod i wneud gwaith yn eich cartref. Rhaid i’r peiriannydd fod yn gofrestredig ar y Gofrestr Nwy Ddiogel. Bydd y Cerdyn Adnabod yn dangos pa fathau o waith y mae’r peiriannydd yn gymwys i’w gwneud, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio hyn.
Gall offer sydd wedi’u gosod yn wael ac sydd wedi’u gwasanaethu’n wael achosi gollyngiadau nwy, tanau, ffrwydradau a gwenwyno carbon monocsid.
Mae carbon monocsid yn nwy gwenwynig sy’n gallu lladd yn gyflym heb unrhyw rybudd. Y chwe phrif arwydd a symptom gwenwyn carbon monocsid yw:
- pen tost,
- pendro,
- cyfog,
- diffyg anadl
- llewygu
- colli ymwybyddiaeth.
Peidiwch â chamgymryd y symptomau fel rhai’r bore wedi yfed y noson cynt.
Os ydych yn meddwl bod dyfais nwy yn wallus, diffoddwch ef a rhoi gwybod i’ch landlord ar unwaith. Mewn argyfwng ffoniwch y llinell gymorth nwy brys ar 0800 111 999. Os ydych chi’n teimlo’n sâl, gofynnwch am gymorth meddygol ar unwaith.
I wirio os yw peiriannydd nwy wedi’i gofrestru, ewch i GasSafeRegister neu ffoniwch 0800 408 5500.
Mae llety myfyrwyr yn aml yn darged deniadol i ladron, felly dyma rai ffyrdd y gallwch chi ddiogelu eich cartref:
- Peidiwch ag atodi eich enw neu’ch cyfeiriad at allweddi eich tŷ
- Os oes gennych giât neu fynedfa gefn, gwnewch yn siŵr ei bod yn cael ei chadw ar gau ac yn ddiogel bob amser
- Gwnewch yn siŵr bod y drysau a’r ffenestri wedi’u cloi pan fyddwch yn mynd allan
- Dylech osgoi cadw allweddi sbâr wedi’u cuddio o dan y mat drws ffrynt neu mewn lleoliadau eraill y tu allan i’r eiddo
- Cadwch bethau gwerthfawr yn ddiogel i ffwrdd ac allan o’r golwg o’r ffenestri
- Os ydych chi’n mynd adref am y gwyliau, ewch â’ch holl bethau gwerthfawr gyda chi a gwnewch yn siŵr bod popeth wedi’i gloi
Cofrestrwch eich holl eiddo am ddim ar immobilise.com, a marcio’ch eiddo gyda beiro Uwch Fioled – bydd hyn yn ein helpu i ddychwelyd eitemau atoch os byddant yn mynd ar goll neu’n cael eu dwyn.
Mae beicio yn ffordd economaidd iawn o deithio o gwmpas ac mae’n bwysig eich bod yn cadw eich beic yn ddiogel.
Wrth brynu beic; gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried y gost ar gyfer clo o ansawdd da, gorau oll os mai Clo Siâp D gyda gradd Aur i wneud y beic yn ddiogel ac i atal lladron manteisgar. Mae hefyd yn syniad da i drefnu yswiriant a chofrestru eich beic ar immobilise.com
Ar ôl i chi gael eich beic newydd, dylid ei storio mewn sied neu garej ddiogel neu wrth rywbeth arall nad yw’n symud. Dylech ei gadw allan o olwg y cyhoedd a’i gadw dan glo hyd yn oed gartref.
Wrth archwilio’r ardal neu ruthro i ddarlithoedd, cofiwch gloi eich beic yn ddiogel a chymryd gyda chi unrhyw rannau y gellir eu tynnu’n hawdd. Dylech osgoi gadael eich beic mewn llefydd heb olau neu sydd wedi’u hynysu.
Os yw eich beic yn cael ei ddwyn, cysylltwch â’r heddlu ar 101 ar unwaith.
Os oes gennych gar, peidiwch â gadael unrhyw bethau gwerthfawr, bagiau neu ategolion y tu mewn i’ch car oherwydd gall pobl dorri’ch ffenestr i’w dwyn.