Mae Caerdydd yn lle gwych i fyw ynddo, a phrin fod pethau drwg yn digwydd, ond pan fyddwch yn byw yn y ddinas, mae pethau y gallwch eu gwneud i gadw eich hunan yn ddiogel.
- Trefnwch ymlaen llaw. Dysgwch ble rydych yn mynd, sut byddwch yn cyrraedd yno a phwy byddwch yn cwrdd â nhw. Cynlluniwch eich taith yn ôl bob tro, a rhowch wybod i ffrindiau ble rydych chi.
- Peidiwch byth â derbyn lifft gan ddieithryn neu rywun nad ydych chi’n ei adnabod yn dda – waeth pa mor flinedig, gwlyb neu hwyr ydych chi.
- Cerdded yn y nos? Ewch mas mewn grŵp, a dewch adref mewn grŵp hefyd. Cadwch at ardaloedd prysur, wedi’u goleuo’n dda. Osgowch lwybrau byr peryglus drwy lonydd ac ardaloedd gwag.
- Cerddwch gydag osgo hyderus ac osgowch gario gormod ar unrhyw adeg o’r dydd. Ceisiwch gadw un llaw yn rhydd bob amser.
- Cadwch yn ymwybodol o’ch amgylchoedd. Cofiwch fod sgwrsio ar y ffôn neu wrando ar gerddoriaeth yn gallu tynnu eich sylw o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas.
- Lawrlwythwch app diogelwch personol eich prifysgol. Gall Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Myfyrwyr Prifysgol De Cymru lawrlwytho’r app SafeZone i aros mewn cyswllt â gwasanaethau diogelwch y brifysgol a’r gwasanaethau brys os oes angen. Gall myfyrwyr MET Caerdydd danysgrifio i’r app diogelwch “Callfy Alert”. Y cyfan sydd ei eisiau yw dilyn y cyfarwyddiadau hyn i danysgrifio i’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim.
Dylech bob amser adrodd am unrhyw ddigwyddiadau wrth yr heddlu, oherwydd gallai hyn ei atal rhag digwydd i fyfyrwyr eraill
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio’r noson am y rhesymau iawn. COFIWCH…
- Osgowch gymryd diodydd nad ydych chi wedi eu gweld yn cael eu harllwys, a pheidiwch byth â gadael eich diod.
- Cadwch at ardaloedd â digon o olau wrth gerdded rhwng tafarndai a chlybiau
- Peidiwch byth â mynd adref gyda phobl ddiarth. Arhoswch gyda’ch ffrindiau pan fyddwch allan, a gwnewch yn siŵr eich bod i gyd yn mynd adref gyda’ch gilydd
- Sylweddau seicoweithredol – Mae gwaharddiad cyffredinol wedi dod i rym yn y DU yn 2016. Dylech ystyried eich diogelwch yn gyntaf, gall cyffuriau gael sgil-effeithiau niweidiol a hyd yn oed angheuol a gallant fod yn gaethiwus iawn.
Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru
Rhadffôn: 0808 808 2234 neu anfonwch neges destun DAN i: 81066 gweler rhagor yn: dan247.org.uk
Mae gliniaduron, llechi a ffonau symudol yn eitemau hanfodol i fyfyrwyr, ond sydd hefyd yn denu troseddwyr. Meddyliwch am yr holl waith sydd ar eich cyfrifiadur, a’r cysylltiadau sydd ar eich ffôn. Byddwch yn synhwyrol gyda’ch teclynnau a’u cadw’n ddiogel…
- Peidiwch â mynd â gliniadur gyda chi, onid oes yn rhaid. Cadwch ef o’r golwg yn ddiogel yn eich bag a pheidiwch byth â’i adael.
- Gwnewch yn siŵr fod eich gliniadur wedi ei farcio gyda phen uwchfioled gyda’ch cod post, rhif y tŷ, eich rhif myfyriwr a llythrennau cyntaf y brifysgol. Hefyd, gweithredwch a lawrlwythwch ddyfeisiau tracio ar eich ffonau a’ch gliniaduron.
- Cofrestrwch eich holl eiddo am ddim yn immobilise.com, bydd hyn yn ein helpu i ddychwelyd eitemau i chi os cânt eu colli neu eu dwyn.
- Byddwch yn synhwyrol gyda’ch ffôn yn gyhoeddus – peidiwch â’i gadw ar ddangos yn eich poced gefn wrth eistedd.
- Cadwch gofnod o rif IMEI eich ffôn, sy’n god unigryw a geir fel arfer y tu ôl i’ch batri ffôn. Os yw eich ffôn yn cael ei ddwyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ganslo gyda’ch darparwr rhwydwaith. Bydd hyn yn blocio’r cerdyn SIM.
Mae dau fath o dacsi yng Nghaerdydd – cerbydau hacni a llogi preifat. Mae angen trwydded gan y Cyngor ar y ddau fath i weithredu’n gyfreithlon. Dysgwch ragor am y gwahanol fathau o dacsis yma.
Peidiwch byth â mynd i mewn i gerbyd heb drwydded. Ceisiwch beidio â theithio ar eich pen eich hun ond os gwnewch, eisteddwch y tu ôl i’r gyrrwr bob amser.
Dim arian? – Cynllun tacsi diogel – Os ydych yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd neu Brifysgol Fetropolitan Caerdydd ac nad oes gennych arian i gyrraedd adref, gallwch ddefnyddio’r cynllun tacsi diogel. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Undeb y Myfyrwyr: