Cerdded yw’r ffordd orau i ddarganfod amgylchedd newydd. Mae’n eich cadw chi’n iach, yn clirio eich meddwl ac yn hollol rad ac am ddim. Ma canol dinas Caerdydd yn fach iawn ac yn hawdd ei gyrraedd ar droed, a hefyd – bydd cerdded yn rhoi amser i chi sylwi ar bethau yn y ddinas y byddech chi efallai wedi eu colli fel arall.
Fel gydag unrhyw ddinas, rydym yn cynghori i chi ddefnyddio rhagofalon diogelwch os byddwch yn cerdded wedi iddi dywyllu.
Mae Caerdydd ar dir gwastad gan mwyaf, sy’n ei gwneud yn lle gwych i feicio. Mae gan Gyngor Caerdydd gynlluniau i adeiladu seilwaith beicio newydd i gysylltu’r ddinas ar ddwy olwyn, mae’r cam cyntaf wedi’i gwblhau yn Cathays.
Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu map cerdded a beicio i’ch helpu i ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas.
Gallwch hefyd gynllunio eich taith ar-lein i ddod o hyd i lwybrau sy’n eich arwain oddi ar brif ffyrdd a hyd yn oed llwybrau oddi ar ffordd gan osgoi traffig yn gyfan gwbl.
Os nad oes gennych eich beic eich hun, gallwch logi un gan un o weithredwyr rhannu beiciau mwyaf y byd – Nextbike, neu’r elusen leol Pedal Power, sydd ag ystod eang o fathau o feiciau ar gael gan gynnwys beiciau addasol.
Gallwch hefyd brynu beic fforddiadwy wedi’i adnewyddu gan yr elusennau lleol, Pedal Power neu Hyfforddiant Beicio Cymru.
Gall beicio fod yn brofiad pleserus, diogel, ond yn debyg i weithgareddau eraill, mae yna rai mesurau diogelwch i’w rhoi ar waith cyn i chi fynd ar eich beic!
- Gwisgwch helmed. Dyma’r pwt cyntaf o gyngor y cawsoch wrth ddechrau dysgu beicio ond mae’n syndod bod rhai pobl yn dal i beidio â gwisgo helmed. Gall gwisgo helmed leihau’n aruthrol eich risg o gael eich anafu petai damwain yn digwydd.
- Rhowch oleuadau ar flaen ac ar gefn eich beic. Rhowch olau gwyn ar flaen y beic a golau coch ar y cefn ynghyd ag adlewyrchyddion.
- Gwisgwch ddillad adlewyrchol a lliw golau pryd bynnag y bo’n bosibl, yn enwedig ar ôl iddi dywyllu.
- Dilynwch Reolau’r Ffordd Fawr. Mae reidio beic fel gyrru car, ond mae’n llawer rhatach, yn gyflymach ac yn fwy pleserus! Wrth feicio ar y ffordd rhaid i chi ufuddhau i arwyddion, signalau goleuadau traffig a Rheolau’r Ffordd Fawr.
- Peidiwch â beicio ar y palmant oni bai bod arwydd ei fod wedi’i rannu neu ei wahanu yno. Gall Heddlu De Cymru gyflwyno hysbysiad cosb benodedig i chi ar gyfer beicio ar y palmant!
- Os oes angen gloywi eich sgiliau arnoch neu os ydych ychydig yn betrus i feicio, gallwch archebu sesiwn hyfforddi un awr am ddim drwy Gyngor Caerdydd.
Mae teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn dda i’r amgylchedd, mae’n cynnig gwerth am arian ac yn cael gwared ar y drafferth o ddod o hyd i le i barcio.
Bysus a Threnau
Gallwch gyrraedd pob campws Prifysgol yng Nghaerdydd ar fws a gallwch gynllunio eich taith bws gyda myunijourney. Mae gostyngiadau tocynnau bws ar gael i rai grwpiau oedran a thrwy FyNgherdynTeithio a gellir defnyddio’r disgownt hwn hyd yn oed yn erbyn y bws Metrider ar gyfer myfyrwyr Met Caerdydd. Mae Bws Caerdydd hefyd yn cynnig disgowntiau arbennig ar dariffau os byddwch yn talu am eich taith drwy’r app.
Mae gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru gysylltiadau da ar drên, gyda gorsafoedd yn Nhrefforest a Cathays. Mae’r trên hefyd yn ffordd wych o gyrraedd canol dinas Caerdydd ac ardal Bae Caerdydd. Mae cardiau rheilffordd ar gael ar gyfer pobl 16-25 oed ac maent yn cynnig disgownt. Gallwch gynllunio eich taith a chael gwybod mwy am deithio ar drên, teithio hygyrch a thocynnau beic ar drên ar feic ar y Gwefan Cadwch Gaerdydd i Symud.
Mae dau fath o dacsi yng Nghaerdydd – cerbydau hacni a llogi preifat. Mae angen trwydded ar y ddau fath i weithredu a byddant yn cario plât ar gefn y car i ddangos eu bod yn drwyddedig, ond mae yna rai gwahaniaethau i’r ddau fath y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.
Mae Cerbydau Hacni fel arfer yn ddu gyda boned gwyn ac mae golau ar eu to wedi’i labelu’n “dacsi”. Rhaid i yrwyr cerbydau Hacni:
- Dderbyn tariff sy’n dechrau ac yn gorffen o fewn Caerdydd (oni bai bod ganddynt reswm da i beidio!)
- Defnyddio mesurydd pris
- Codi’r pris mesuredig!
Mae’r gyrrwr yn cael gofyn am flaendal ond mae’n rhaid i’r swm fod yn rhesymol e.e. dim mwy na 50% o’r dariff.
Ni all cerbydau llogi preifat eich codi o ochr y stryd, mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw drwy gwmni ffôn neu drwy app. Os byddant yn eich codi oddi ar ochr y ffordd, mae hyn yn annilysu eu hyswiriant, felly peidiwch â neidio mewn car llogi preifat!
Rhaid i yrwyr ddilyn rheolau eu trwydded ond os nad ydynt yn gwneud hynny, gallwch roi gwybod i’r Cyngor amdanynt. Cymerwch lun o’r tacsi sy’n dangos y plât cofrestru cerbyd a thrwydded os yn bosibl ac anfonwch fanylion y digwyddiad at trwyddedu@caerdydd.gov.uk
Cofiwch y gall Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Met Caerdydd ddefnyddio’r Cynllun Tacsi Diogel drwy eu hundebau y myfyrwyr os nad oes gennych arian am dacsi.
Mae Caerdydd yn ddinas gryno ac yn hawdd teithio o’i chwmpas heb neidio yn y car felly rydym yn argymell nad ydych yn dod â’ch car i Gaerdydd. Yn ogystal â’r prinder lleoedd i barcio, mae cynnal car yn gost ddiangen tra eich bod yn y Brifysgol.
Wyddech chi fod 6% o boblogaeth Caerdydd wedi gwneud y newid o yrru i feicio (2010-2020), gan wella sefyllfa’r traffig a chyfrannu at ddiogelu’r amgylchedd.
Os yw eich sefyllfa yn ei wneud yn hanfodol gyrru, gweler ein cyngor ar barcio am ragor o fanylion