Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o wneud gwahaniaeth i’ch cymuned leol, cwrdd â phobl newydd ac ennill sgiliau newydd a defnyddiol!
Mae gan fyfyrwyr fynediad i amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli a rhaglenni cyflogadwyedd a gynhelir naill ai gan eu prifysgol neu eu hundeb myfyrwyr, neu gan ddarparwr allanol. Ceir manylion am y cyfleoedd sydd ar gael i chi isod.
Gwirfoddolwch gyda ni!
Mae Llety Caerdydd yn argymell ein prosiectau gwirfoddoli partnerol. Mae’r Prosiect Hyrwyddwyr Amgylcheddol,Gwirfoddolwyr Myfyrwyr yr Heddlu a Chynllun Gwirfoddoli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae’r prosiectau hyn yn cynnig cyfleoedd i gefnogi eich cyd-fyfyrwyr a thrigolion lleol hefyd. Mae croeso i chi ymuno, ni waeth pa Brifysgol rydych yn ei mynychu.
Mae Gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd gymryd rhan mewn projectau untro a phrojectau gwirfoddoli rheolaidd. Maen nhw hefyd yn hysbysebu swyddi gwirfoddoli gwag. Galwch heibio i swyddfa Undeb y Myfyrwyr ar gampws Llandaf i gael gwybod mwy am sut i gymryd rhan.
Gwobr Fetropolitan Caerdydd yw’r rhaglen gyflogadwyedd a gynhelir gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd er mwyn rhoi cyfleoedd i chi a fydd yn atgyfnerthu eich sgiliau a’ch helpu i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Mae Gwirfoddoli Caerdydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gymryd rhan mewn projectau untro a phrojectau gwirfoddoli rheolaidd. Galwch heibio i’r Swyddfa Gwirfoddoli ar drydydd llawr Undeb y Myfyrwyr yn Plas-y-Parc i gael gwybod am y cyfleoedd!
Ffôn: 029 20781 494
Gwobr Caerdydd yw’r rhaglen gyflogadwyedd a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd. Ei nod yw cydnabod cyfranogiad myfyrwyr mewn gweithgareddau allgyrsiol a rhoi cyfleoedd iddynt wella setiau sgiliau a phosibiliadau gyrfaol i’r dyfodol.
Mae Grad Edge yn eich galluogi i fanteisio ar gyfleoedd cyflogadwyedd yn ystod eich amser ym Mhrifysgol De Cymru.
Gall Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru eich cysylltu â chyfleoedd gwirfoddoli lleol, p’un ai myfyriwr ynteu breswylydd yn y gymuned ydych chi. Maen nhw’n cynnig cyfleoedd i wirfoddoli, cefnogi projectau sy’n helpu cymunedau lleol, pobl agored i niwed a’r amgylchedd lleol.
Mae Gwirfoddoli Caerdydd yn wefan wirfoddoli ganolog sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Caerdydd a all eich cyfeirio at ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli ar hyd a lled y ddinas.
Mae Go Wales yn creu cyfleoedd profiad gwaith hyblyg wedi’u teilwra i fyfyrwyr sydd dan 25 oed, mewn addysg amser llawn mewn prifysgol yng Nghymru, yn meddu ar yr hawl gyfreithiol i fyw yn y DU ac sy’n bodloni un neu fwy o feini prawf penodol. I weld a ydych yn gymwys ar gyfer cynllun Go Wales, cliciwch yma
- Grŵp Gweithredu Amgylcheddol Adamsdown
- Cathays Compass
- Canolfan Gymunedol Cathays
- Cardiff Conservation
- Made in Roath
- Oasis
- Gerddi Cymunedol Plasnewydd
- Roathcardiff.net
Os hoffech i’ch project cymunedol gael ei ychwanegu at y rhestr yma, cysylltwch â lletycaerdydd@caerdydd.gov.uk