Gall symud fod yn straen, ond peidiwch â phoeni! Mae llawer o opsiynau ar gael i chi i’ch helpu i reoli’r gwastraff a’r ailgylchu ychwanegol hwnnw pan fyddwch yn pacio, ac mae’n syml ac yn gyfleus.
Casgliadau Wythnosol wrth Ymyl y Ffordd
Oeddech chi’n gwybod y gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o wastraff cartref gan ddefnyddio eich casgliadau ailgylchu ymyl y ffordd wythnosol? Gwnewch ddefnydd llawn o’ch casgliadau rheolaidd yn y cyfnod cyn i chi symud.
Ewch i https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Pryd-gaiff-fy-miniau-eu-casglu/Pages/default.aspx neu lawrlwythwch yr ap Cardiff Gov i gael gwybod beth sy’n cael ei gasglu, a’ch dyddiadau casglu olaf.
Cofiwch, ni fydd unrhyw ailgylchu a gwastraff a roddir ar y palmant y tu allan i’r dyddiadau hyn yn cael eu casglu.
Rhowch – peidiwch â’i daflu!
Rhowch unrhyw eitemau y gellir eu hailddefnyddio neu fwyd nad yw’n ddarfodus i elusennau lleol. Chwiliwch am fannau rhoi lleol i ddarganfod sut a ble i roi eitemau neu dewch â’ch eitemau i fannau rhoi Caru Caerdydd Cyn i Chi Fynd.
Dillad ac eitemau bach eraill -Mae yna fannau rhoddi ar draws y ddinas gan gynnwys ar gampysau eich prifysgol.
Gellir gadael bwyd nad yw’n ddarfodus a bagiau plastig o ansawdd da yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd neu yn y digwyddiadau ailgylchu dros dro rhwng 17 a 28 Mehefin (gweler y manylion isod am amseroedd a lleoliad).
Ar gyfer eitemau swmpus fel dodrefn, setiau teledu neu offer mawr – Bydd angen i chi wneud trefniadau gydag elusen ymlaen llaw ar gyfer eitemau swmpus fel dodrefn, setiau teledu neu offer mawr.
Cysylltwch â siop YMCA Rhodfa Colchester drwy e-bostio Cardiff.ColchesterShop@ymca.org.uk neu ffonio 029 2049 5114.
Cysylltwch â Sefydliad Prydeinig y Galon drwy fynd i https://www.bhf.org.uk/shop/donating-goods/book-furniture-collection-near-me neu cysylltwch â siop Heol y Crwys yn uniongyrchol drwy ffonio 029 2060 0070.
Gellir rhoi beics i Weithdy Beiciau Caerdydd, prosiect ailgylchu beiciau dielw yn Uned 9 Gweithdai Gabalfa, CF14 3AY (y tu ôl i’r siop fawr Aldi oddi ar Rhodfa’r Gorllewin). Neu ewch i https://www.cardiffcycleworkshop.org.uk/ i gael rhagor o wybodaeth.
Digwyddiadau Ailgylchu Dros Dro
Dod ag eitemau i ddigwyddiad dros dro aligylchi.
Nid oes angen apwyntiad a gallwch alw heibio un o’r digwyddiadau hyn gydag unrhyw un o’r eitemau canlynol:
- Eitemau trydanol bach*
- Dillad a thecstilau
- Llyfrau / CDs / DVDs
- Ceramig (platiau, cwpanau ac ati)
- Potiau, sosbenni, cyllyll a ffyrc, cyllyll(metel)
- Batris cartref
- Rhoddion bwyd (o fewn eu dyddiad, heb fod yn ddarfodus)
*Mae’n ddrwg gennym, ni allant dderbyn oergelloedd / rhewgelloedd, setiau teledu, sgriniau cyfrifiadurol, offer mawr e.e. peiriannau golchi llestri, peiriannau golchi dillad, ac ati.
DYDDIADAU: 17-21 Mehefin y 23-28 Mehefin
AMSER: 10:00am-3:00pm
LLEOLIAD: Cornel Miskin Street a Heol Salisbury, y tu allan i’r siopau ac ochr arall i’r ffordd o Misfits.
MAP: https://goo.gl/maps/eNLUB1QVNkvyxrUi8
Gellir cyrraedd y lleoliad mewn car, ar feic neu ar droed.
Bagiau glas ar gyfer sbwriel ychwanegol
Os oes gennych wastraff ychwanegol na ellir ei ailgylchu, gallwch brynu rholyn o fagiau glas. Llenwch y bagiau glas gyda gwastraff na ellir ei ailgylchu, a’u rhoi wrth ymyl y ffordd i’w casglu ar unrhyw ddiwrnod gydol mis Mehefin.
I brynu bagiau a threfnu casgliad, e-bostiwch nsofficerenquiry@cardiff.gov.uk
Ewch i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Gallwch hefyd drefnu apwyntiad am ddim i ymweld â Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Ffordd Lamby neu Clos Bessemer. Efallai y bydd apwyntiadau ar yr un diwrnod ar gael, ond mae’n well trefnu ymlaen llaw.
Derbynnir ystod eang o eitemau ond cofiwch NA fydd y bagiau gwastraff du cymysg yn cael eu derbyn yn y canolfannau ailgylchu.
I ddarganfod beth allwch chi fynd ac i drefnu ymweliad, defnyddiwch yr ap Cardiff Gov neu ewch i www.cardiff.gov.uk/Canolfannau-Ailgylchu
Gwastraff Swmpus
Os oes gennych wastraff swmpus fel dodrefn neu offer mawr, mae angen i chi drefnu casgliad swmpus. Gellir codi tâl am rai eitemau, ac mae’n hanfodol trefnu casgliadau ymlaen llaw.
I ddarganfod beth allwch chi fynd ac i drefnu ymweliad, defnyddiwch yr ap Cardiff Gov neu ewch i www.cardiff.gov.uk/Casgliadau-eitemau-swmpus
Ailgylchwch a dim gwastraff ochr os gwelwch yn dda
Dylid rhoi unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu yn y cynhwysydd ailgylchu cywir ac nid yn eich bin du na’ch bagiau glas.
Dylai eitemau ailgylchadwy sych fel papur, cardfwrdd, tuniau, caniau diod, poteli plastig neu wydr a chynwysyddion plastig fynd i mewn i’r bagiau gwyrdd a dylai gwastraff bwyd fynd i mewn i’ch cadi bwyd.
Cesglir eich bagiau gwyrdd a’ch cadi bwyd bob wythnos am ddim!
Cofiwch, NI ddylai bagiau du ac eitemau swmpus gael eu gadael wrth ymyl eich biniau neu o flaen eich cartref. Gallai hyn arwain at hysbysiad cosb benodedig o £100 neu erlyniad.