Grŵp gweithredu gwirfoddol yw Hyrwyddwyr Amgylcheddol sy’n gweithio ar fentrau ac ymgyrchoedd cynaliadwyedd. Mae’r project yn bartneriaeth rhwng Llety Caerdydd, Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd (SVC), Undeb Myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cyngor Dinas Caerdydd, Heddlu De Cymru a Chadw Caerdydd yn Daclus gyda’r nod o wneud Caerdydd yn lle glanach, gwyrddach a diogelach. Mae’r grŵp yn gweithio ar amrywiaeth o brojectau sy’n canolbwyntio ar wastraff ac ailgylchu, tai ac effeithlonrwydd ynni, teithio cynaliadwy, masnach deg, tasgau amgylcheddol gan gynnwys glanhau afonydd, yr heddlu gwyrdd a llawer mwy.
Bydd y project yn gweithio mewn partneriaeth â’r gymuned ehangach ac amrywiaeth o sefydliadau cefnogol, ac mae gwirfoddolwyr yn y grŵp o bob cefndir. Mae myfyrwyr, trigolion, landlordiaid, cynghorwyr a llawer mwy o grwpiau’n gwirfoddoli eu hamser i helpu i wneud Caerdydd yn ddinas lanach a gwyrddach. Project parhaus yw hwn ac mae cyfleoedd yn codi drwy’r flwyddyn.
Mae Hyrwyddwyr Amgylcheddol yn broject partneriaeth rhwng Llety Caerdydd, Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Gwirfoddoli Caerdydd ac Cyngor Dinas Caerdydd. Mae ystod eang o sefydliadau’n cefnogi’r project gan gynnwys Heddlu De Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus, Masnach Deg Caerdydd a llawer mwy.
Cysylltwch â ni!
Os hoffech fod yn Hyrwyddwr Amgylcheddol, cysylltwch e-bostio HyrwyddwyrAmgylcheddol@caerdydd.gov.uk
Dilynwch waith yr Hyrwyddwyr Amgylcheddol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Zuzanna Stone
Rwyf wedi mwynhau bod yn Gydlynydd Project ar gyfer Hyrwyddwyr yr Amgylchedd yn y blynyddoedd academaidd 2013/14 a 2014/2015. Gan fy mod yn frwd dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd, roeddwn i’n ddiolchgar o gael fy newis i gydlynu ar broject oedd yn ceisio ymdrin â’r materion hynny a hyrwyddo byw’n gynaliadwy yn y gymuned myfyrwyr.
Fel rhan o’r project, rydym yn cynnig cyngor ar ailgylchu, gwaredu gwastraff bwyd, gwasanaeth Testun Taclus, effeithlonrwydd ynni a Masnach Deg. Mae gennym hefyd ddigwyddiadau mwy ymarferol megis glanhau traethau, casglu sbwriel neu arddio i helpu Caerdydd ddod yn ddinas brydferth ac amgylcheddol gyfrifol. Rwyf wedi cwrdd â phobl hyfryd ar y project ac mae pob digwyddiad wedi bod yn brofiad newydd a chyffrous. Roedd yn gyfle i wneud rhywbeth ystyrlon a chwbl wahanol. Roedd e hefyd yn ffordd wych o weld Caerdydd.
Fy hoff ddigwyddiadau oedd y rhai gwahanol. Un o’r rheiny oedd y gweithdy Ieir Buarth yng Nghanolfan Gymunedol Adamsdown, lle cawsom gyfle i ddysgu am gadw ieir mewn ardaloedd dinesig; ac yn ystod digwyddiad arall fe wnaethon ni yrru i lawr i Aberogwr i lanhau’r traeth gyda Cadwch Gymru’n Daclus a chael cyfle i fwynhau’r haul hyfryd. Cawsom ddiwrnod gwych yn casglu sbwriel yn Varsity – roedd y gerddoriaeth yn chwarae, y dorf yn ein hannog, yr haul yn tywynnu a’r parc yn llawn blodau godidog. Gyda’n sbectol haul ar ein trwynau fe aethom ati i gasglu’r sbwriel yn Varsity, gan fwynhau’r awyrgylch hapus a helpu pobl i waredu eu sbwriel.
Dyw’r project byth yn ddiflas ac mae wastad mor gadarnhaol! Rwyf wedi gweithio’n galed ac wedi ymrwymo llawer o amser i’r project, ac er adegau ei fod wedi bod yn heriol ceisio cyflawni’r gwaith ochr yn ochr â’m hastudiaethau a’r holl rolau eraill roedd gen i yn y brifysgol, roedd fy rôl fel cydlynydd project Hyrwyddwyr Amgylcheddol yn rhoi llawer o foddhad i mi ac yn sicr yn cyfoethogi fy mhrofiad yn y brifysgol. Ond yn well na hynny – rwyf hefyd wedi gwella fy nghyflogadwyedd o ganlyniad i’r rol! Rwy’n teimlo bod gweithio fel cydlynydd myfyrwyr wedi gwella fy hyder, fy sgiliau cyfathrebu ac fy ngallu i addasu, a bydd y cwbl o gymorth mawr mewn unrhyw weithle. Oherwydd fy ymrwymiad i’r project cefais Ddyfarniad Rhagoriaeth 200 awr y Millennium Volunteering, wedi’i lofnodi fan Brif Weinidog Cymru. Oherwydd y rôl hon, rwyf wedi cael interniaeth gyda thâl yn yr haf gyda Phrifysgol
Caerdydd.
Gobeithio y gwelwn ddigwyddiadau hyd yn oed mwy unigryw a gwahanol y flwyddyn nesaf, ac y bydd mwy a mwy o fyfyrwyr yn cydnabod pa mor bwysig yw gwneud Caerdydd yn ddinas gynaliadwy.
Alex Kay
Deuthum yn wirfoddolwr Hyrwyddwr yr
Amgylchedd yn 2012 oherwydd bod gennyf
ddiddordeb mewn materion amgylcheddol ac
roeddwn i eisiau gwella fy ardal leol. Mewn
blwyddyn a hanner, fe wnes i dros 70 awr o waith gwirfoddoli, gweithio gyda gwahanol sefydliadau cyhoeddus a phreifat, gwneud ffrindiau newydd, ac ychwanegu llawer o sgiliau at fy CV!
Fy hoff ran o’r gwaith wirfoddoli oedd gweithio gyda gwahanol bobl o wahanol gefndiroedd. Rydych chi’n cael y cyfle i weithio gyda myfyrwyr
o wahanol brifysgolion ac ar gyrsiau eraill, y cyhoedd a gwahanol sefydliadau megis Heddlu De Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd
Fe wnes i gymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu fel crwydro o amgylch y gymuned, stondinau Masnach Deg ac ailgylchu a digwyddiadau gweithredu fel casglu sbwriel, glanhau traethau a garddio cymunedol.
Fy hoff ddigwyddiadau oedd y rhai lle’r oeddwn i’n glanhau’r traethau gan fy mod i’n cael cyfle i ymweld ag ardal y tu allan i Gaerdydd a gwneud ffrindiau tra’n gwneud gwahaniaeth i’r ardal.
Fe wnaeth gwirfoddoli fy helpu i ddysgu sgiliau sydd wedi bod yn allweddol o ran fy mharatoi ar gyfer bywyd ar ôl prifysgol. Ni all y sgiliau rwyf wedi’u dysgu fel gwirfoddolwr gael eu dysgu fel rhan o fywyd academaidd, ond maen nhw’r un mor bwysig ag unrhyw beth a gaiff ei addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Fe wnaeth siarad wyneb yn wyneb â thrigolion yn ystod y digwyddiadau crwydro o amgylch o gymuned fy helpu i wella fy sgiliau cyfathrebu, sgiliau sy’n holl bwysig yn fy maes gwaith i. Cefais lawer o hwyl yn gwneud rhywbeth i wella’r ardal rwy’n byw ynddi, yn ogystal â bywydau myfyrwyr a thrigolion eraill yn yr ardal. Mae’r project Hyrwyddwyr yr Amgylchedd yn gyfle gwych i fyfyrwyr roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned yn ogystal â dysgu sgiliau a fydd yn eu galluogi i gynnig rhywbeth ychwanegol yn y farchnad swyddi ar ôl iddynt adael y Prifysgol.
Mewn blwyddyn a hanner, fe wnes i dros 70 awr o waith gwirfoddoli a chefais gyfle i weithio gyda gwahanol sefydliadau cyhoeddus a phreifat, gwneud ffrindiau newydd, ac ychwanegu llawer o sgiliau at fy CV! Mae’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu wedi fy helpu i gael swydd barhaol llawn amser yng Nghyngor Dinas Caerdydd.
Bydden i’n annog myfyrwyr i wirfoddoli gyda’r Hyrwyddwyr Amgylcheddol fel eu bod nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth i Gaerdydd, dysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd a gwneud y gorau o’u hamser yn y brifysgol.