Mae cynllun Gwirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu yn cynnwys myfyrwyr Caerdydd ac aelodau o’r gymuned yn gweithio gyda swyddogion o Heddlu De Cymru ar fentrau lleihau trosedd ac atal yn yr ardal leol. Nod y fenter yw datblygu cysylltiadau cymunedol cryfach a gwella bywydau myfyrwyr a phobl leol i wneud iddynt deimlo’n fwy diogel yn eu cymunedau.
Mae’r fenter wedi rhoi profiad gwerthfawr o weithio gyda thrigolion lleol, myfyrwyr a Heddlu De Cymru i wirfoddolwyr. Mae eu cyfranogiad wedi gwella cysylltiadau cymunedol tra hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar leihau ffigurau troseddu yn Cathays, yn enwedig ynghylch Marcio Beic a chofrestru.
Mae gwirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion ac yn cyflawni amrywiaeth o weithgareddau. Gall y rhain gynnwys cyflwyno ymwybyddiaeth o ddrws i ddrws am ymgyrchoedd atal trosedd, plismona diogel mewn digwyddiadau mawr fel gêm y Varsity, rhoi cefnogaeth amlwg iawn i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Swyddogion Heddlu mewn digwyddiadau, ar batrolau a chefnogi cyd-fyfyrwyr trwy fentrau lleol megis y Bws Diogelwch.
Mae cynllun gwirfoddoli’r heddlu yn boblogaidd iawn felly dim ond ar adegau penodol o’r flwyddyn y mae’n recriwtio. Dilynwch Tîm Cyswllt Myfyrwyr Heddlu De Cymru ar Instagram i gael rhagor o wybodaeth a bod y cyntaf i glywed pan fydd y broses recriwtio’n agor. Yn 2024, mae recriwtio ar agor rhwng 1 Medi a 14 Hydref.
Mae Cynllun Gwirfoddoli’r Heddlu yn cael ei fabwysiadu gan Skills Volunteering Cymru, swyddfa gwirfoddoli leol sy’n gweithio gyda myfyrwyr a’r gymuned ehangach. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y project a sut i ymuno, drwy ymweld â gwefan SVC.
Ar gyfer pob ymholiad arall, cysylltwch â’r Tîm Cyswllt Myfyrwyr drwy e-bostio SwpStudentLiaisonCardiff@south-wales.pnn.police.uk