Mae iechyd meddwl a lles pawb yn amrywio o ddydd i ddydd. Gall y brifysgol fod yn gyfnod cyffrous a heriol iawn. Ambell ddiwrnod mae’n bosib y byddwch yn teimlo bod popeth yn ormod.
Os ydych yn sylwi ar newid ynddoch chi eich hun neu ffrind a’ch bod yn teimlo yr hoffech gael ychydig o gymorth gyda’ch iechyd meddwl a’ch lles, mae help wrth law.
Nid yw teimlo’n bryderus neu’n ofidus yn anarferol, ond gall gael effaith fawr ar eich bywyd. Mae “Bywyd ACTif” yn gwrs hunangymorth am ddim ar-lein a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a all gynnig cymorth a dulliau ymarferol i’ch helpu i sicrhau eich bod ar y trywydd iawn
Mae gan yr elusen iechyd meddwl, Mind, wybodaeth ddefnyddiol sy’n benodol ar gyfer myfyrwyr prifysgol a hefyd yn cynnig llawer o wybodaeth a chymorth ymarferol.
Mae Student Minds yn arbenigo mewn iechyd meddwl a lles i fyfyrwyr. Mae gan eu gwefan lawer o adnoddau ac awgrymiadau ymarferol i helpu i ofalu am eich lles.
Mae digon o bobl y gallech siarad â nhw hefyd. P’un ai a fyddech yn fwy cyfforddus yn siarad â ffrind, rhywun sy’n annwyl i chi, neu wasanaeth cymorth, nid ydych ar eich pen eich hun ac mae’n iawn i ofyn am help.
Canolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr
Mae’r Ganolfan Gyngor i Fyfyrwyr yn rhoi gwybodaeth, cyngor, cynrychiolaeth a chymorth cyfrinachol ac am ddim i fyfyrwyr. Mae’n ymwneud â llawer o bynciau gan gynnwys materion tai, academaidd, arian a defnyddwyr.
Mae’r Ganolfan yn rhan o Undeb y Myfyrwyr ac mae’n annibynnol ar y Brifysgol. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar y wefan ynghyd â manylion am sut i siarad ag ymgynghorydd. Ymdrinnir â phob achos yn hollol gyfrinachol.
Canolfan Cymorth i Fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Mae’r Ganolfan Cymorth Myfyrwyr yn rhoi ystod eang o wasanaethau gyda’r nod o helpu a chynghori myfyrwyr. Mae’n cynnig cyngor ymarferol ar bynciau amrywiol ac yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl a lles.
Y gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr yw eich pwynt cyswllt cyntaf os oes angen unrhyw gymorth arnoch wrth astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ewch i’w wefan i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig help a chyngor cyfrinachol, diduedd am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ar faterion fel gyrfaoedd, arian ac iechyd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth cwnsela am ddim sydd ar gael i bob myfyriwr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Gall myfyrwyr sy’n poeni am eu sefyllfa ariannol gael gafael ar wasanaethau lles, gwasanaethau cwnsela a chymorth ar-lein drwy’r wefan.
Mae gan Wasanaethau De Cymru raglen cymorth lles sy’n cynnig ystod o gymorth o arweiniad hunangymorth i’r gwasanaeth Iechyd Meddwl a Chwnsela. Os ydych yn bryderus, o dan straen, neu’n ansicr o beth i’w wneud, ewch i’w gwefan i gael gwybodaeth am yr ystod o wasanaethau sydd ar gael. Gallwch gael mynediad at wasanaethau a threfnu apwyntiadau trwy eich cyfrif UniLife. Ar gyfer gwasanaethau cefnogi cyrsiau a lles yng Nghaerdydd, mae Canolfan Gynghori yr Atrium ar y llawr gwaelod, Rhif ffôn 01443 668541 neu e-bostiwch cardiffadvice@southwales.ac.uk
Mae Swyddogion Sabothol yn Undeb y Myfyrwyr ac maen nhw yno i’ch helpu ac i’ch arwain trwy broblemau rydych yn eu cael o bosibl yn eich bywyd yn y Brifysgol. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o broblemau academaidd i broblemau gyda’ch llety. Dysgwch fwy am eich tîm Swyddogion Sabothol.
Mae Cardiff Nightline yn wasanaeth gwrando a gwybodaeth cyfrinachol a arweinir gan fyfyrwyr. Mae’r gwasanaeth ar gael i’r holl fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. P’un a oes angen rhywun i siarad ag eg arnoch neu os oes angen cyngor ar eich astudiaethau arnoch chi, gallwch ffonio’r gwirfoddolwyr cyfeillgar yn Nightline, a fydd yn ‘gwrando, nid yn pregethu’.
Ffoniwch: 029 2087 0555, 8pm – 8am yn ystod y tymor.
Yn ogystal â gwasanaeth ffôn, mae Nightline hefyd yn cynnig Gwasanaeth Negeseua Gwib sydd ar agor rhwng 8pm a 12am bob nos yn ystod y tymor.
Mae Y Samariaid yn darparu cymorth emosiynol ac yn cynnig gwasanaeth 24awr, bob dydd o’r wythnos. Hefyd mae ganddynt Gangen Caerdydd a’r Cylch, fel y gallwch siarad â rhywun yn bersonol. Mae’r Gangen ar agor i bobl alw heibio heb apwyntiad ymlaen llaw o 9am tan 8pm o ddydd Mercher i ddydd Sul ac o hanner dydd dydd Llun a dydd Mawrth.
Ffoniwch: 116 123
E-bost: jo@samaritans.org
Cyfeiriad: 62 Heol Orllewinol y Bont-faen, Caerdydd, CF5 5BS
Mae’r Counselling Directory yn wasanaeth cyfrinachol sy’n annog pobl mewn angen i geisio cymorth. Gallwch fynd i’w gwefan, rhoi eich cod post a dod o hyd i gwnselydd neu seicotherapydd cymwys cyfagos sy’n arbenigo yn y maes angen. Mae’r wefan hefyd yn ganolfan wybodaeth i bobl ddarllen erthyglau a newyddion sy’n perthyn i iechyd meddwl, yn ogystal â dod o hyd i ddigwyddiadau lleol.