Gall cael ymarfer corff helpu i glirio eich meddwl ar ôl diwrnod yn y brifysgol yn ogystal â chadw eich corff yn iach. Gallwch gyflawni’r argymhelliad cenedlaethol trwy fod yn actif am 20-30 munud bob dydd mewn ysbeidiau o 10 munud neu fwy.
Nid oes rhaid i hyn olygu mynd i lawr i’r gampfa os nad yw hynny at eich dant. Gallwch gyflwyno gweithgareddau corfforol i mewn i’ch trefn bob dydd. Gallech gerdded/beicio i’r brifysgol neu i’r siopau neu godi ar eich traed i goginio pryd o fwyd i ffrindiau neu dacluso gartref.
Gall bod yn actif fod yn esgus gwych i gwrdd â ffrindiau. Mae gan Gaerdydd barciau anhygoel ac ardaloedd arfordirol i’w harchwilio. Gall eich Undeb Myfyrwyr eich rhoi mewn cysylltiad â myfyrwyr eraill sydd â diddordebau tebyg trwy glybiau, cymdeithasau neu hyd yn oed trwy wirfoddoli.
Yn aml mae’n demtasiwn ymestyn am fwydydd cyfleus ond bydd paratoi eich prydau bwyd eich hun yn arbed arian i chi ac yn rhoi rheolaeth i chi dros y cynhwysion yn eich bwyd. Os ydych yn gogydd newydd ac mae angen ysbrydoliaeth arnoch, mae gan Newid am Oes’ gan y GIG ddigonedd o syniadau am ryseitiau ar gyfer prydau bwyd sy’n faethol gytbwys.
Mae’n bwysig bwyta digonedd o ffrwythau a llysiau, o leiaf 5 dogn y diwrnod. Gallwch ychwanegu blas a diddordeb i’ch prydau bwyd trwy fwyta “yr enfys” – neu gynnwys ystod eang o liwiau gwahanol wrth ddewis eich ffrwythau a’ch llysiau.
Gall labeli bwyd ddweud llawer wrthych am werth maethol y bwyd rydych yn ei brynu. Edrychwch am y system goleuadau traffig wrth wneud eich dewisiadau o ran bwyd – efallai y byddwch yn synnu gweld pa mor iach neu afiach yw eich hoff fwydydd.
Mae hylendid bwyd da yn bwysig wrth aros yn iach. Mae gwenwyn bwyd yn salwch y gellir ei atal ac mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i amddiffyn eich hun a phobl eraill.
Edrychwch ar y canllaw cyflym hwn i atal gwenwyn bwyd.
Mae symptomau gwenwyn bwyd yn cynnwys chwydu, y dolur rhydd, poen yn y bol a thwymyn. Os byddwch yn cael y symptomau hyn ac yn credu bod gwenwyn bwyd arnoch, ewch at eich meddyg teulu ac adrodd am yr achos i Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.
Gall lleihau faint o alcohol rydych chi’n ei yfed fod o fudd sylweddol i’ch iechyd. Mae Prif Swyddog Meddygol y DU yn argymell na ddylai dynion na merched yfed mwy na 14 uned o alcohol bob wythnos. Gallwch ddefnyddio’r cyfrifiannell hwn er mwyn gweld faint rydych yn ei yfed mewn gwirionedd.
Y peth pwysig i’w gofio wrth yfed alcohol yw gwybod beth yw eich terfyn a pheidio â theimlo o dan bwysau i fynd y tu hwnt iddo. Gall gor-yfed eich gwneud yn fwy agored i niwed, felly gofalwch amdanoch eich hun a’ch ffrindiau.
Awgrymiadau am Aros yn Ddiogel ac o Dan Reolaeth
- Byddwch â stumog llawn – bwytewch cyn i chi yfed a thra byddwch yn yfed.
- Yfwch ddŵr neu ddiodydd ysgafn cyn a rhwng diodydd alcoholig.
- Cymerwch eich amser – Osgowch rowndiau
- Peidiwch ag yfed mwy na’r lefelau a argymhellir
- Gosodwch derfyn a chyfrif eich diodydd
- Cynlluniwch eich taith adref cyn yfed er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd adref yn ddiogel a dywedwch wrth rywun ble rydych chi a phryd rydych yn bwriadu gadael
- Mae’n bosibl y byddwch dros y terfyn o hyd y bore wedyn – meddyliwch am faint o’r gloch y cawsoch eich diod alcoholig ddiwethaf
Cofiwch
- Nid oes rhaid i chi fod yn feddw i alcohol effeithio arnoch chi
- Dywedwch ‘na’ os ydych chi wedi cael digon neu os nad ydych chi eisiau yfed
- Dylech wybod eich terfynau, yfed yn synhwyrol ac aros yn ddiogel
- Peidiwch byth â gadael eich diod heb ei goruchwylio
- Peidiwch byth â derbyn diodydd gan bobl ddieithr
- Gwyliwch eich diod yn cael ei harllwys
Os bydd rhywun yn yfed ac yn llewygu neu’n methu siarad, ffoniwch am ambiwlans ar unwaith – ffoniwch 999. Er mwyn lleihau’r risg o berson anymwybodol yn chwydu ac yn tagu i farwolaeth, trowch ef ar ei ochr yn y safle diogel, sicrhewch fod ei lwybrau awyr yn glir a pheidiwch â’i adael ar ei ben ei hun.
A wyddoch chi, os byddwch yn ysmygu 20 o sigarennau y diwrnod, gallech arbed, ar gyfartaledd, £3800 y flwyddyn trwy roi’r gorau iddo? Dychmygwch beth gallai hynny ei brynu…
Bydd eich corff yn cael buddion iechyd o fewn dyddiauar ôl i chi roi’r gorau i ysmygu.
Os hoffech chi neu ffrind roi’r gorau i ysmygu, gall y GIG gynnig cymorth, gan gynyddu’r tebygolrwydd o lwyddiant bedair gwaith! I gael rhagor o wybodaeth a manylion am wasanaethau lleol, ewch i Helpa Fi i Stopio.
Nid yw problemau gyda chyffuriau ac alcohol yn safonol, mae meintiau a sylweddau gwahanol yn effeithio ar bobl wahanol mewn ffyrdd gwahanol. Gall hyn ddibynnu ar eich ffisioleg a ffactorau eraill.
Mae cyffuriau ac alcohol yn effeithio ar farn ac ymddygiad a gall hyn yn ei dro gael effaith ar agweddau eraill ar eich bywyd. Nid oes rhaid i chi fod yn gorfforol ddibynnol ar gyffuriau neu alcohol i’r naill neu’r llall gael effaith niweidiol arnoch chi. Mae’n bosibl y bydd eich perthnasoedd yn dioddef, gallai eich sefyllfa ariannol waethygu, neu mae’n bosibl yr effeithir arnoch yn gorfforol, yn emosiynol neu’n seicolegol. Gall camddefnyddio sylweddau arwain atoch yn ddioddef trosedd neu gyflawni trosedd, gan arwain at y posibilrwydd o gael cofnod troseddol a allai effeithio ar eich gallu i gael swydd yn y dyfodol. Gall cofnod troseddol hyd yn oed effeithio ar eich gallu i deithio tramor yn y dyfodol.
Os ydych yn teimlo bod defnyddio cyffuriau neu alcohol wedi effeithio ar eich bywyd, neu os hoffech gael cymorth a chyngor yn ardal Caerdydd, ffoniwch E-DAS ar 0300 3007000 neu ewch i e-das.wales.nhs.uk Mae E-DAS yn cynnig asesiad llawn o angen, ac, fel y pwynt cyswllt unigol ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, bydd yn gallu eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eich anghenion. Gallwch hefyd ffonio E-DAS os effeithiwyd arnoch gan ddefnydd sylweddau anwylyn.
Os hoffech gael cymorth neu wybodaeth am wasanaethau yn rhywle arall, gallwch ffonio DAN 24/7 ar 0808 808 2234 neu ewch i dan247.org.uk i gael gwybodaeth am sylweddau penodol.