P’un a ydych yn byw mewn neuadd neu mewn tŷ preifat yng Nghaerdydd mae angen i chi gofrestru â meddygfa (meddyg teulu) cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd.
Dylech gysylltu â’r feddygfa o’ch dewis (sydd o fewn eich dalgylch) cyn gynted â phosib i gofrestru neu i ofyn am ragor o wybodaeth. Peidiwch ag aros nes y byddwch yn sâl i gofrestru gyda meddygfa – gwnewch hyn cyn gynted â phosib wrth gyrraedd Caerdydd i sicrhau bod gennych fynediad rhwydd i wasanaethau pan fydd eu hangen arnoch. Gall cofrestru gymryd hyd at bythefnos.
Gallwch ddod o hyd i’ch meddygfa deulu agosaf ynghyd â rhestr o wasanaethau defnyddiol lleol eraill megis deintyddion, optegwyr neu fferyllfeydd drwy roi eich cod post yma.
Pan fyddwch yn symud i feddygfa newydd, bydd angen i chi fynd â’ch cerdyn meddygol GIG gyda chi. Mae arno fanylion eich meddygfa bresennol, ynghyd â rhif GIG a bydd yn ei gwneud yn haws i chi gofrestru. Mae’r rhif GIG yn sicrhau y bydd eich cofnodion meddygol yn cael eu hanfon yn gyflym at y feddygfa newydd.
Os nad oes gennych gerdyn GIG, gallwch gael y rhif GIG o’ch meddygfa bresennol. Mae’n syniad da ysgrifennu hwn i lawr ynghyd â’ch enw a’ch cyfeiriad. Cadwch y wybodaeth hon yn ddiogel oherwydd bydd ei hangen arnoch pryd bynnag y byddwch yn symud meddygfa.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cofrestru gyda phractis meddyg teulu, neu os hoffech gymorth i ddod o hyd i feddygfa deulu leol, gallwch gysylltu â thîm cofrestru Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ar 01495 300727.
Cofiwch, mae amrywiaeth eang o wasanaethau iechyd ar gael i’ch helpu os ydych chi’n teimlo’n sâl. Os nad ydych yn siŵr pa un yw’r gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eich cyflwr iechyd, gall Dewis doeth roi cyngor i chi.
I gael gwybodaeth a chyngor arall yn ymwneud ag iechyd ewch i:
www.nhsdirect.wales.nhs.uk neu ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647
Wedi symud tŷ?
Os ydych yn symud tŷ bydd angen i chi wirio gyda’ch meddygfa i weld a oes angen i chi newid eich meddygfa gan y gallech fod allan o’ch dalgylch.
Yn ystod misoedd y gaeaf, mae pigiadau ffliw am ddim ar gael i’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o ddal y feirws ffliw. Mae’n hawdd iawn cael brechiad rhag y ffliw am ddim, trefnwch apwyntiad yn eich meddygfa heddiw. Mae pigiadau ffliw hefyd ar gael mewn rhai fferyllfeydd lleol ar gyfer y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf.
Y myfyrwyr sy’n wynebu’r risg fwyaf o ddal ffliw yw’r rhai sydd ag:
- Asthma (neu sy’n defnyddio anadlwyr ataliol)
- Clefyd y Siwgr (Diabetes)
- Clefyd yr arennau
- Clefyd yr afu
- Gofalwyr cofrestredig (neu’r rheiny sy’n byw gartref)
- Yn feichiog
- HIV/AIDS
- Yn defnyddio meddyginiaethau sy’n gwanhau’r system imiwnedd
Mae’n bwysig eich bod yn eich amddiffyn eich hun ac eraill o’ch cwmpas rhag y feirws ffliw er mwyn atal unrhyw gymhlethdodau rhag datblygu yn y dyfodol.
Rhagor o wybodaeth am sut i Guro Ffliw!
Mewn argyfwng difrifol neu pan fyddwch yn cael salwch sy’n peryglu bywyd, ffoniwch 999 a gofynnwch am ambiwlans os oes angen sylw meddygol ar unwaith arnoch. Er enghraifft, os oes gennych boen ddifrifol yn y frest, problemau anadlu difrifol, gwaedu difrifol neu os yw rhywun yn anymwybodol (nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol).
Os oes angen i chi fynd i’r Uned Achosion Brys, ond nad yw eich cyflwr yn bygwth bywyd, rhaid i chi ffonio’n gyntaf. Dyma sut mae’r system yn gweithio:
Gall eich meddyg teulu a fferyllwyr lleol gynnig cyngor ar feddyginiaethau a gallant ddarparu dulliau atal cenhedlu brys.
Os nad ydych chi’n siŵr pa wasanaeth GIG i’w ddefnyddio, Dewis Doeth