Symud allan

Mae symud allan o’ch tŷ myfyrwyr yn wahanol i symud allan o neuaddau myfyrwyr. Bellach, mae gennych dŷ i’w lanhau, ei drefnu a’i bacio yn hytrach nag un ystafell yn unig.

Mae ychydig o bethau i’w cofio wrth symud allan felly rydym wedi rhoi’r rhestr wirio hon at ei gilydd ar eich cyfer.  Dylai dilyn y camau hyn eich helpu i dderbyn eich blaendal yn ôl yn llawn.

 

Ydych chi wedi cofio… Beth i’w wneud… Wedi gwneud?
Rhent – Ydych chi wedi talu eich rhent i gyd? Sicrhewch fod eich landlord wedi cael yr holl rent os nad ydych yn siŵr.
Bond/Blaendal – Ydych chi’n gwybod beth yw rhif adnabod eich blaendal a manylion lle mae eich bond wedi ei ddiogelu? Mae tri chynllun blaendal posibl. Edrychwch ar eich contract tenantiaeth a’r blwch post e-bost i gael y manylion. Os nad ydych yn siŵr, holwch eich landlord neu cysylltwch â’ch Gwasanaeth Blaendaliadau Tenantiaeth.
Rhestr Eiddo – Ydych chi wedi gwirio’r rhestr eiddo a lenwyd gennych pan wnaethoch symud i mewn? Chwiliwch am ddifrod nad oedd yno pan wnaethoch chi symud i mewn. Gwiriwch y rhestr eiddo gyda’ch landlord.  Trefnwch ddyddiad archwilio. Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Diogelu Blaendaliadau Tenantiaeth os oes unrhyw anghytundeb yn codi ynglŷn â’r blaendal/bond.
Glanhau– Ydych chi wedi gadael yr eiddo mewn cyflwr glân? Glanhewch bob ardal yn drylwyr i leihau’r risg o drosglwyddo feirysau a sicrhau eich bod yn cael eich blaendal yn ôl. Edrychwch ar y rhestr eiddo i weld beth mae angen ei wneud.
Ailgylchu a Sbwriel

Ydych chi wedi symud eich holl ailgylchu/gwastraff o’ch eiddo a’ch gardd flaen a chefn?

Gwiriwch pryd mae’r dyddiau casglu biniau i osgoi cael Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 gan Gyngor Caerdydd.

 

Gwiriwch eich dyddiad casglu yn: https://cardiffdigs.co.uk/cy/gwastraff-ac-ailgylchu/ neu lawrlwythwch ap “Cardiff Gov” i gael negeseuon atgoffa am ddim – yn aml bydd diwrnodau casglu’n newid adeg gwyliau’r banc.

Rydym yn deall efallai na fydd hi’n ddiwrnod casglu i chi pan fyddwch yn symud allan felly rydym wedi nodi ambell awgrym i’ch helpu  i reoli’r sefyllfa hon.

Caru Caerdydd Cyn i Chi FyndA oes gennych eitemau nad oes eu hangen arnoch chi ac y gellid eu rhoi i elusen – rhowch – peidiwch â’i daflu! Efallai y bydd gennych eitemau nad oes eu hangen arnoch mwyach ond efallai y bydd rhywun arall yn eu gwerthfawrogi.  Carwch Gaerdydd Cyn i Chi Fynd – gwiriwch eich opsiynau cyfrannu gan gadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol
Post – Ydych chi wedi newid eich cyfeiriad nôl i’ch cartref teuluol ar gyfer yr haf? Cysylltwch â’ch meddygon, eich banc, eich cwmni ffôn symudol, eich ffrindiau, eich teulu, y DVLA, a’ch cyflogwr.
Allweddi – Ydych chi wedi dychwelyd eich allweddi i’ch landlord/asiant gosod? Rhowch yr allweddi i’r landlord/asiantaeth gosod tai yn ystod yr archwiliad cyn symud allan.
Biliau – Nwy, trydan a dŵr Sicrhewch eich bod wedi talu biliau sy’n weddill. Cymerwch ddarlleniadau mesuryddion a rhoi gwybod i gwmnïau cyfleustodau am y dyddiad symud allan.
Trwydded Deledu – A ydych wedi dweud wrthynt eich bod yn symud allan? Gallech chi fod yn gymwys i gael ad-daliad rhannol! Sicrhewch eich bod yn diweddaru eich manylion ar www.tvlicensing.co.uk

© Llety Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd