Am beth i chwilio

Wedi i chi benderfynu ble hoffech chi fyw, gyda phwy yr hoffech chi fyw, a pha fath o lety rydych chi’n chwilio amdano, gallwch ddechrau trefnu gyda landlordiaid ac asiantaethau gosod tai i ymweld â thai.

Sicrhewch eich bod chi a’ch cydletywyr yn cytuno ac yn ymweld gyda’ch gilydd ag eiddo er mwyn i chi allu eu cymharu.

• Arwyddion o leithder a llwydni
• Cloeon ar ddrysau
Yn ddelfrydol, bydd gan bob ystafell yn y tŷ glo ar y drws. Sicrhewch fod clo diogel ar eich drws ffrynt â chloi troi gyda’r bawd.
• Difrod i’r eiddo
Sicrhewch fod unrhyw addewidion geiriol mae’r landlord yn eu gwneud yn cael eu hysgrifennu yn y cytundeb tenantiaeth. Fel hyn, gallwch sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud cyn i chi gyrraedd.
• Cyflwr y tu allan i’r eiddo
Cadwch olwg am gwteri toredig, cwareli ffenestri wedi’u cracio a sicrhewch fod y drws ffrynt mewn cyflwr da.
• Cyfleusterau gwresogi digonol
Oes digon o wresogwyr yn y tŷ? Dylai fod un ar gael ym mhob ystafell.

Lawrlwythwch y rhestr wirio chwilio am dŷ (63kb PDF) i fynd gyda chi pan fyddwch yn chwilio am dŷ.

© Llety Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis | Polisi Preifatrwydd | Accessibility