Mae symud o neuaddau preswyl i gartref yn y sector rhent preifat yn rhan bwysig o fywyd Prifysgol. Mae mwy o dai i fyfyrwyr yng Nghaerdydd nag sydd eu hangen, felly peidiwch â theimlo dan bwysau a pheidio â rhuthro dod o hyd i gydletywyr a chartref sy’n iawn i chi. Efallai y bydd rhywun yn dweud wrthych na fyddwch yn cael cartref os nad ydych yn dod o hyd i un yn gynnar ond nid yw hyn yn wir.
Byddwch yn hyderus eich bod yn gwybod gyda phwy rydych chi am fyw. Mewn llety rhent, bydd angen i chi rannu mannau cymunedol a dyletswyddau gwaith tŷ, ac efallai y byddwch yn gyfrifol ar y cyd am dalu biliau. A fyddwch chi’n gallu dibynnu ar y bobl eraill i talu’u cyfran nhw o’r biliau? Bydd yn rhaid i chi fyw gyda’u harferion, da a drwg, felly ystyriwch a yw eich darpar gydletywyr yn addas i chi.
Cyn i chi ddechrau chwilio, eisteddwch i lawr gyda’ch cydletywyr a gwnewch restr o’r meini prawf yr hoffech i’ch cartref newydd eu bodloni. Ystyriwch…
– Gyllideb a Biliau
– Lleoliad
– Maint ystafelloedd
– Mannau cymunedol a storio
– Diogelwch a sicrwydd
– Celfi a ffitiadau
– Ffenestri gwydr dwbl – mae hyn yn lleihau costau gwresogi!
Mae pob cytundeb fel arfer ar y cyd, gan olygu bod pob tenant sy’n ei arwyddo wedi’i ymrwymo yn gyfreithiol iddo. Rydych wedi’ch ymrwymo at y tŷ hwnnw a’r cydletywyr hynny tan ddiwedd y contract hyd yn oed os bydd eich amgylchiadau a’ch grŵp cymdeithasol yn newid. Byddwch yn gyfrifol am renti eich gilydd ac unrhyw gostau sy’n codi. Felly, cymrwch eich amser ac ystyriwch yn ofalus cyn llofnodi. Os oes gennych amheuon, gallwch gael cyngor gan Swyddfa Llety eich Prifysgol neu Wasanaethau Cynghori Undeb y Myfyrwyr.
Nid oes gan asiantaethau gosod tai hawl i godi ffioedd gweinyddol mwyach. Caniateir ffioedd cadw ond mae’n nhw’n gwbl ad-daladwy fel arfer. Os byddwch yn gweld landlord neu asiantaeth yn hysbysebu na fydd yn codi ffioedd arnoch, y rheswm dros hynny yw na chaniateir iddynt wneud hynny.
Mae blaendaliadau ar wahân ac yn cael eu codi fel ernes rhag ofn y byddwch yn difrodi’r eiddo neu ddim yn talu biliau ac ati. Rhaid i’ch landlord roi eich blaendal mewn cynllun blaendal tenantiaeth a gefnogir gan y Llywodraeth o fewn 30 diwrnod i’w dderbyn a rhoi gwybod i chi ble mae’n cael ei gadw.