Gyda mwy na 40,000 o fyfyrwyr yn byw yng Nghaerdydd, mae myfyrwyr yn ffurfio rhan eithaf mawr o’r boblogaeth. P’un a ydych chi’n byw mewn neuadd breswyl neu lety rhent preifat, rydych chi’n rhan bwysig o gymuned Caerdydd!
Gall ymwneud â’r gymuned leol neu ddod i adnabod eich cymdogion wneud byd o wahaniaeth o ran creu cymdogaeth gyfeillgar. Felly cymerwch eiliad i gyflwyno eich hun i’ch cymdogion, gall cnocio’n gyflym ar y drws i ddweud ‘helo’ gael effaith fawr.
Os ydych ychydig yn swil, gallwch roi un o’n cardiau post drwy’r drws.
Mae manteision i gael perthynas dda gyda’ch cymdogion, pan ewch chi adref am y gwyliau, gallwch ofyn iddynt gadw llygad ar eich cartref. Neu gallant eich helpu i setlo, gan roi gwybod i chi am y system ailgylchu neu yn lle gallwch gael y coffi gorau yn yr ardal.
Os hoffech helpu i groesawu myfyrwyr i’r ardal, rydym yn trefnu cyfleoedd gwirfoddoli gyda Heddlu De Cymru a’r Hyrwyddwyr Amgylcheddol i roi cyngor i breswylwyr ar gadw eu cartrefi yn ddiogel a sicrhau bod Caerdydd yn ddinas lanach a gwyrddach.
Mae Cathays, y Rhath a Gabalfa’n gartref i lawer o fyfyrwyr, teuluoedd ifanc, gweithwyr proffesiynol a phreswylwyr oedrannus. Wrth fyw yn y ddinas, gall sŵn deithio. Ond gall sŵn gormodol gael effaith ddifrifol ar iechyd a llesiant unigolyn; gall darfu ar batrymau cysgu, effeithio ar amserlenni astudio, ac achosi tensiwn rhwng cymdogion.
Rydyn ni am i chi fwynhau bod yn rhan o gymuned Caerdydd a phopeth y gall y ddinas eu cynnig, ond gofynnwn i chi ystyried pobl eraill sy’n byw yn eich cymuned.
Dilynwch yr awgrymiadau hyn i gael profiad cadarnhaol ac osgoi cwynion posibl am sŵn.
• Dywedwch helo a chyflwyno’ch hun i’ch cymdogion. Efallai y gallech ystyried rhannu manylion cyswllt hyd yn oed. Mae bod yn gyfeillgar ac yn groesawgar yn talu ar ei ganfed. Os ydych chi newydd symud i’r ardal, dyma gyfle gwych i chi.
• Meddyliwch am y sŵn rydych chi’n ei greu bob amser yn ystod y dydd a’r nos. Myth yw’r gred bod creu pob math o sŵn cyn 11pm yn dderbyniol.
• Sicrhewch fod ffenestri a drysau ar gau er mwyn lleihau faint o sŵn sy’n teithio.
• Wrth chwarae cerddoriaeth, byddwch yn ymwybodol o lefel y bas – mae’n teithio’n bell. Os yn chwarae cerddoriaeth, camwch allan i weld a allwch ei chlywed ac os oes angen lleihau’r sain neu fas.
•Sicrhewch fod y system sain yn gymesur â maint eich ystafell neu gartref. Peidiwch â rhoi seinyddion yn erbyn waliau sydd rhyngoch chi a’ch cymydog.
• Peidiwch â chreu gormod o sŵn wrth gerdded adref gyda ffrindiau’n hwyr y nos. Gall sgwrsio cyffredinol ddeffro pobl sy’n cysgu ac efallai y byddan nhw’n dechrau gwaith yn gynnar yn y bore!
Digwyddiadau cymdeithasol – cofiwch:
Mae gan y gyfraith yng Nghymru reolau a gynlluniwyd i’n cadw ni a’n cymunedau yn ddiogel ac atal lledaeniad y coronafeirws. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gadw ein cymunedau’n ddiogel. Y ffordd orau o wneud hyn yw cynnal pellter cymdeithasol a chadw 2 fetr ar wahân i bobl nad ydyn nhw’n rhan o’ch cartref.
Cofiwch: Os bydd un person o’r naill aelwyd neu’r llall yn datblygu symptomau, dylai pawb hunanynysu ar unwaith.
Caiff y rheolau eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd felly mae’n bwysig i ni i gyd sicrhau ein bod yn cadw at y rhai diweddaraf.
Gallwch ddarllen mwy am y mesurau cenedlaethol yma.
Cadwch at y rheolau hyn i gadw’r gymuned rydych chi’n byw ynddi yn ddiogel ac i osgoi cael eich dirwyo gan yr Heddlu. Os ydych chi’n pryderu nad yw pobl yn glynu wrth reoliadau’r coronafeirws mewn perthynas ag ymgynnull, gallwch roi gwybod amdano drwy ffonio 101.
Cofiwch, bydd sŵn eithafol neu barhaus yn cael ei ystyried fel ymddygiad gwrthgymdeithasol a bydd Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru a/neu’ch Prifysgol yn ymdrin â hynny trwy’r Cod Ymddygiad Myfyrwyr. Byddwch yn gymydog da a gwnewch yn siŵr nad chi yw’r tramgwyddwr!
Cnociwch y drws yn gwrtais ac eglurwch y broblem mewn modd digyffro, efallai nad yw’n ymwybodol o’r broblem a byddwch yn barod i gytuno i gadw’r sŵn i lawr. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn gweithio, gallwch gysylltu â’r Cyngor.
Gallwch roi gwybod am faterion problemus fel partïon a chymdogion swnllyd i Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir y Cyngor ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 6696
Mae Caerdydd yn ddinas dwt sy’n rhwydd mynd o’i chwmpas ar droed neu ar feic felly y peth gorau yw.peidio a dod â’ch car i’r brifysgol. Mae parcio’n brin yng nghanol y ddinas gan gynnwys ardaloedd preswyl a gall cynnal car fynd â llawer o’ch arian fel myfyriwr, gan gostio miloedd o bunnoedd bob blwyddyn. Nid yw cadw car yng Nghaerdydd mor gyfleus ac y byddech yn credu.
Mae gan rai myfyrwyr amgylchiadau personol sy’n gofyn am ddefnyddio car ac mae Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi trwyddedau parcio preswyl ar-lein os yw eich eiddo yn gymwys i gael car y tu allan iddo.
Os oes gennych anawsterau symudedd, efallai y gallwch elwa o’r cynllun Bathodyn Glas cenedlaethol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Bathodyn Glas a sut i ymgeisio yma.
Os hoffech ddefnyddio car o bryd i’w gilydd ond yr hoffech osgoi cost rhedeg a chynnal a chadw a’r drafferth o ddod o hyd i le parcio, .efallai bydd Clwb Ceir Caerdydd yn addas i chi
Rydym yn atgoffa myfyrwyr y gall eu gweithredoedd gael effaith negyddol neu gadarnhaol ar y campws ac i ffwrdd o’r campws.
Mae eich Prifysgol yn disgwyl i chi ymddwyn mewn ffordd resymol a phriodol, gan barchu eraill, ac i ddangos cwrteisi ac ystyriaeth bob amser. Fel myfyriwr ac aelod o’r gymuned, fe’ch gwelir fel cennad i’r Brifysgol tra’ch bod wedi cofrestru ar eich cwrs, ac mae’r Brifysgol yn disgwyl i chi ei chynrychioli mewn modd cadarnhaol. Gallwch wneud hyn trwy fod yn barchus a chwrtais i’ch cymdogion, gan gadw’r swn mor isel â phosib, a deall eich cyfrifoldebau gwastraff ac ailgylchu.
Os bydd ymddygiad myfyrwyr yn niweidiol i’r gymuned neu’n achosi niwsans, gall Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru ddelio â chamddwyn myfyrwyr trwy eu gweithdrefnau disgyblu myfyrwyr.
Mae enghreifftiau o’r rhain, lle bydd y Prifysgolion yn eu hystyried yn niweidiol i’r gymuned, yn cynnwys sŵn gormodol o eiddo, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu broblemau niwsans difrifol sy’n deillio o eiddo rhent, a all gynnwys pryderon amgylcheddol.